Dyfarnu ysgoloriaethau Julian Bream i gitaryddion CBCDC
Ymddiriedolaeth Julian Bream
Mae’r Ymddiriedolaeth, a sefydlwyd gan y diweddar Julian Bream, gitarydd nodedig a chyfaill i’r Coleg, yn cefnogi myfyrwyr hynod ddawnus y gitâr glasurol i ddilyn eu hastudiaethau.
Mae’r myfyriwr blwyddyn olaf Luke Bartlett ac Oliver Manning, a raddiodd eleni, wedi derbyn ysgoloriaethau llawn i gefnogi eu hyfforddiant parhaus.
Ym mis Gorffennaf enwebwyd Oliver a Luke gan y Coleg i glyweliad ar gyfer yr ysgoloriaeth, gerbron gitarydd o fri arall, a phartner deuawd Julian Bream, John Williams.
‘Mae’n gamp ac yn anrhydedd aruthrol i Luke ac Ollie ennill ysgoloriaethau Julian Bream a chael cydnabyddiaeth am eu crefft gelfyddydol eu hunain yn y cyfnod cynnar hwn yn eu gyrfaoedd; Allwn i ddim bod yn fwy balch o’r ddau.’Helen SandersonPennaeth Perfformio Gitâr
Clyweld o flaen John Williams
Bu’r ddau yn siarad â ni am y profiad o glyweld o flaen gitarydd o fri, astudio yn CBCDC, a beth mae’n ei olygu iddynt fod yn ysgolor Julian Bream.
Treuliodd y ddau amser yn sgwrsio â John Williams cyn ac ar ôl eu clyweliadau.
‘Roedd yn hynod garedig, ac yn hael iawn gyda’i amser,’ meddai Oliver. ‘Cyn i mi berfformio iddo, buom yn siarad am gerddoriaeth, a’r etifeddiaeth a adawyd gan fy arwr mwyaf, y diweddar Julian Bream.
Ar ôl fy mherfformiad roedd John Williams unwaith eto’n hael iawn gyda’i gyngor, gan roi awgrymiadau ac adborth i mi, yn ogystal â chynnig cyngor gyrfaol. Nid wyf erioed wedi gadael clyweliad gyda gwên mor lydan ar fy wyneb!’
Roedd Luke yn cytuno:
‘Wrth gwrs ei fod yn brofiad braidd yn nerfus i chwarae i John Williams, ond gwnaeth yn siŵr bod y clyweliad yn un hamddenol ac anffurfiol iawn, lle buom yn sgwrsio llawer am y grefft o chwarae’r gitâr a chwaraeais rywfaint o’r repertoire sydd wedi bod yn fy ysbrydoli yn ddiweddar.’
Cefnogaeth ar gyfer eu hastudiaethau
‘Mae’n fraint wirioneddol cael bod yn rhan o freuddwyd ac etifeddiaeth Julian o gefnogi chwaraewyr ifanc cyffrous a chreadigol, ac mae cael fy newis ar gyfer yr ysgoloriaeth hon yn golygu popeth i mi,’ meddai Luke.
Cytunodd Oliver: ‘Fel llawer o fyfyrwyr, roedd hi’n anodd talu costau astudio cwrs ôl-radd mewn cerddoriaeth. Gyda chymorth Ymddiriedolaeth Julian Bream, gallaf nawr symud ymlaen gyda fy nghynlluniau a dechrau astudio ar gyfer ôl-radd mewn cerddoriaeth yn yr Academi Gerdd Frenhinol, gan ddechrau ym mis Medi.’
Cydweithio trawsadrannol
‘Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb anogaeth CBCDC i gydweithio ar draws adrannau,’ parhaodd Oliver.
Astudio’r gitâr yn CBCDC
Oliver: ‘Wrth gwrs, mae gen i ddyled enfawr i fy athrawes yn CBCDC, Helen Sanderson, sydd bob amser wedi fy annog i ddilyn fy llwybr cerddorol fy hun, ac i fod yn hyderus wrth archwilio dehongliadau gwreiddiol o’r gerddoriaeth rwy’n ei rhannu - rhywbeth yr wyf wedi cael llawer o lwyddiant ag ef.
Roedd ein gwersi’n aml yn cynnwys trafod cysylltiadau haniaethol a’r naratifau y tu ôl i’r gerddoriaeth.'
'Rwy’n falch iawn o fod yn gerddor ynof fy hun gyda llais unigryw, ac nid clôn o rywun arall – rhywbeth y mae Helen wedi’i annog ers y cychwyn cyntaf yn CBCDC.'Oliver Manning
'Yn olaf, mae fy hyfforddiant gan diwtor gitâr gwadd CBCDC John Mills (cynfyfyriwr i John Williams a chyn Bennaeth Perfformio Gitâr CBCDC) wedi bod yn agoriad llygad.
Mae agwedd John at dechneg hanesyddol a’i wybodaeth ddiderfyn o gerddoriaeth yr ugeinfed ganrif wedi cael effaith ddofn ar fy natblygiad fel perfformiwr cyngerdd.’
Cytunodd Luke gan ychwanegu:
'Rwy’n edrych ymlaen yn awr at fy mlwyddyn olaf yn CBCDC yn datblygu ac yn cyflwyno’r gerddoriaeth y credaf sy’n dangos y gitâr ar ei fwyaf cyffrous.’