Neidio i’r prif gynnwys

Adnoddau ar gyfer eich pwnc

Gweler ein rhestr yn nhrefn yr wyddor, isod, am gronfeydd data allweddol, e-lyfrau ac e-gyfnodolion sydd ar gael i staff a myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a phori am drama (D) neu cerddoriaeth (C).

A

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

D C

Disgrifiad

Gwybodaeth am ffynonellau cyllid eraill – yn enwedig elusennau – sy’n dyfarnu arian (ffioedd, cynhaliaeth, costau ymchwil) i unrhyw fyfyriwr, waeth beth fo’r pwnc neu genedligrwydd. Mae’n cynnwys cronfa ddata enfawr o gyfleoedd cyllido, canllaw cynhwysfawr, a nifer o adnoddau i’ch helpu chi i baratoi cais grant buddugol.

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

D C

Disgrifiad

Newyddion a gwybodaeth i reolwyr celfyddydau a’r rheini sydd â diddordeb proffesiynol yn y sector celfyddydau.

B

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

C

Disgrifiad

Mynediad ar-lein i’r cyfnodolyn rhyngwladol hwn. Mae’n cynnwys addysgu a dysgu cerddoriaeth mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol gan gynnwys addysgu offerynnol a lleisiol a cherddoriaeth mewn lleoliadau cymunedol.

C

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

D C

Disgrifiad

Gallwch gael gafael ar gannoedd o gyfnodolion ar draws amrywiaeth o bynciau academaidd yn ogystal â miloedd o e-lyfrau ar bynciau yn ymwneud â cherddoriaeth a drama: ‘Ffilm, Cyfryngau, Cyfathrebu Torfol’, ‘Drama, Theatr, Astudiaethau Perfformio’, ‘Cerddoriaeth’, a ‘Celfyddyd’. Chwiliwch yn ôl allweddair neu porwch yn ôl pwnc neu gyhoeddiad.

D

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

C

Disgrifiad

Gwefan i ddod o hyd i gerddoriaeth gerddorfaol, sy’n darparu mynediad at wybodaeth am fwy na 13,700 o weithiau gan fwy na 2,100 o gyfansoddwyr. Mae’r opsiwn chwilio uwch yn caniatáu ichi chwilio yn ôl hyd, offeryniaeth, math corws, ac unawdwyr. Gallwch hefyd chwilio ariâu opera, cytganau deuawd, a mwy, gan ddefnyddio’r darganfyddwr dyfyniadau opera.

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

D

Disgrifiad

Casgliad o ffilmiau o brif gynyrchiadau theatr Prydain, rhaglenni dogfen y tu ôl i’r llenni, ac adnoddau addysgu a dysgu.

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

D

Disgrifiad

Llyfrgell ddigidol o destunau dramâu gan Methuen Drama, Faber & Faber, Nick Hern Books a mwy, ynghyd â llyfrau ar grefftau theatr, hanes theatr ac arferion perfformio.

E

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

C

Disgrifiad

Mynediad i rifynnau digidol y cylchgronau a’r cyfnodolion cerdd hyn: BBC Music; Choir & Organ; International Piano; Jazzwise; The Musical Times; Opera Now a The Strad. Cliciwch ar ‘Log in’ ar frig y sgrin ac yna dewiswch ‘Click here to log in as RWCMD’.

F

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

D C

Disgrifiad

Gall aelodau staff a myfyrwyr CBCDC gael mynediad i e-adnoddau penodol o Brifysgol De Cymru. Mae hyn yn cynnwys cronfeydd data gyda chynnwys ar iechyd, seicoleg, addysg a theatr.

G

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

C

Disgrifiad

Mynediad llawn i destun y Grove dictionaries of Music and Musicians, Opera and Jazz.

I

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

C

Disgrifiad

Trawsgrifiadau a chyfieithiadau llythrennol o ariâu opera a thestunau caneuon celf mewn sawl iaith.

J

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

D C

Disgrifiad

Mynediad i erthyglau ar-lein o gyfnodolion cerddoriaeth amrywiol, gan gynnwys rhywfaint o gynnwys perthnasol ar gyfer myfyrwyr drama.

M

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

D C

Disgrifiad

Mae Medical Problems of Performing Artists yn darparu papurau ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid yn ymdrin â materion iechyd sy’n ymwneud ag actorion, dawnswyr, cantorion, cerddorion a pherfformwyr eraill.

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

D C

Disgrifiad

Mae Medici TV yn darparu mynediad at 3,500 o weithiau cerddorol a ffilmiwyd o’r 1940au hyd heddiw, a dros 150 o ddigwyddiadau byw a ffrydir bob blwyddyn o leoliadau mwyaf mawreddog y byd. Mae hefyd yn cynnwys 3,000 o ffilmiau gan gynnwys cyngherddau, operâu, bale, rhaglenni dogfen a dosbarthiadau meistr.

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

C

Disgrifiad

Cyfres o bedair cyfrol o sgoriau cerddoriaeth sy’n cwmpasu’r prif genres cerddoriaeth glasurol a chyfnodau amser, o’r Oesoedd Canol i’r 21ain ganrif. Cliciwch ar ‘My Collections’ a dewiswch y ddolen ‘Music Online: Classical Scores Library’ i bori drwy’r casgliad.

N

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

C

Disgrifiad

Casgliad chwiliadwy o gerddoriaeth allweddellau Cymru o’r 18fed i’r 21ain ganrif, yn dwyn ynghyd wybodaeth a gedwir mewn sawl archif a llyfrgell, ynghyd â dolenni i wybodaeth am cyfansoddwyr Cymreig, recordiadau a ffynonellau defnyddiol eraill. Crëwyd yr adnodd hwn gan Zoë Smith, pianydd a Phennaeth Rhaglenni Ôl-raddedig (Cerddoriaeth) yn CBCDC.

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

C

Disgrifiad

Llyfrgell wrando helaeth o draciau cerddoriaeth glasurol.

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

C

Disgrifiad

Llyfrgell fideo’r celfyddydau perfformio gan gynnwys operâu, bale, rhaglenni dogfen, cyngherddau byw.

O

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (M)

C

Disgrifiad

Mae casgliad cerddoriaeth Oxford Handbooks yn darparu mynediad at ysgolheictod cyfredol ym mhob maes ymchwil cerddoriaeth gan gynnwys cerddoleg hanesyddol, ethnogerddoreg, theori, addysgeg, dawns a thechnoleg. Chwilio yn ôl allweddair, os gwelwch yn dda.

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (M)

C

Disgrifiad

Fersiwn ar-lein hanes pum cyfrol Richard Taruskin o esblygiad cerddoriaeth y Gorllewin.

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (M)

C

Disgrifiad

Mynediad llawn i destun y Grove dictionaries of Music and Musicians, Opera and Jazz; Oxford Companion to Music; Oxford Dictionary of Music.

R

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

C

Disgrifiad

Cronfa ddata gynhwysfawr o gerddoriaeth ryngwladol gan gynnwys crynodebau a thestun llawn o nifer o gyfnodolion, ac adnoddau defnyddiol eraill.

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

C

Disgrifiad

Catalog ar-lein o ffynonellau gwreiddiol cerddoriaeth (llawysgrifau (cyhoeddwyd 1600-1850) neu gerddoriaeth argraffedig (a gyhoeddwyd cyn 1900), ysgrifennu ar theori cerddoriaeth, a libretti) ar gael ledled y byd.

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

C

Disgrifiad

Catalog ar-lein o lawysgrifau cerddoriaeth ca. 1600 – ca. 1800, a cherddoriaeth argraffedig cyn ca. 1800 yn Llyfrgelloedd y DU. Mae’r catalog hwn yn is-set o brif gatalog ar-lein RISM.

S

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

D C

Disgrifiad

Rydym yn tanysgrifio i amrywiaeth eang o gyfnodolion Sage gan gynnwys: British Journal of Music Therapy, Psychology of Music, Journal of Research in Music Education, International Journal of Music Education, General Music Today, Clothing and Textiles Research Journal.

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

C

Disgrifiad

I gael mynediad at ein tanysgrifiad, cofrestrwch ar gyfer eich cyfrif ffrind Sing Up eich hun yn rhad ac am ddim (Cliciwch ar y botwm ‘Try Today’). Nid yw’r cyfrif Sing Up hwn wedi’i gysylltu â’ch cyfrif Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ond mae angen i chi gofrestru gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i ddangos eich bod yn rhan o’r Coleg. Pan fydd eich cyfrif wedi’i sefydlu, anfonwch e-bost atom yn library@rwcmd.ac.uk i roi gwybod i ni eich bod chi eisiau cael eich cysylltu â'n tanysgrifiad sefydliadol

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

D

Disgrifiad

Yn ogystal â'n tanysgrifiad print, gall staff a myfyrwyr gael mynediad at dros bum mlynedd o bapur newydd The Stage ar-lein.

T

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

C

Disgrifiad

Mynediad ar-lein i’r cylchgrawn cerddoriaeth hwn sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth yr 20 fed ganrif a cherddoriaeth gyfoes.

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

D C

Disgrifiad

Mynediad ar-lein i’r cyfnodolyn a adolygwyd gan gymheiriaid hwn, sy’n cyhoeddi ymchwil ar hyfforddiant perfformio gan ymarferwyr, academyddion ac artistiaid creadigol.

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

D

Disgrifiad

Mynediad ar-lein (o 1981 ymlaen) i’r cyhoeddiad theatr hwn sy’n adargraffu yn llawn yr adolygiadau gan feirniaid drama genedlaethol o gynyrchiadau yn Llundain a thu hwnt, gyda rhestrau cast a chredydau llawn yn ogystal â lluniau cynyrchiadau.

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

D

Disgrifiad

Casgliadau o destunau dramâu, perfformiadau sain a fideo, rhaglenni dogfen a chyfoeth o gynnwys ychwanegol sy’n gysylltiedig â theatr. Dewiswch ‘My Collections’ i bori drwy’r adnoddau sydd ar gael neu chwilio yn ôl allweddair. Mae’n cynnwys mynediad at rai recordiadau byw o ddramâu National Theatre Live.

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

D C

Disgrifiad

Gallwch chwilio drwy 200 a mwy o flynyddoedd o’r papur newydd The Times ar-lein mewn fformat testun copi cywir llawn. Mae’r archif yn cynnwys gwybodaeth am sawl pwnc, gan gynnwys busnes, y dyniaethau, gwyddoniaeth wleidyddol ac athroniaeth, yn ogystal ag adroddiadau am y prif ddigwyddiadau hanesyddol rhyngwladol.

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

C

Disgrifiad

Mynediad ar-lein i'r cyfnodolyn hwn sy'n cyhoeddi ymchwil ar bob agwedd ar gerddoriaeth yn yr ugeinfed ganrif.

V

Adnodd
Drama (D) Cerddoriaeth (C)

D C

Disgrifiad

Porwch y casgliad o e-lyfrau a brynwyd gan Lyfrgell CBCDC. Dewiswch ‘All eBooks’ i weld y rhestr o’r holl deitlau sydd ar gael neu chwilio yn ôl allweddair. Gellir hefyd dod o hyd i ddolenni i e-lyfrau unigol trwy chwilio catalog y Llyfrgell.


Archwilio’r adran