Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Ymunwch ag Amnest Gitâr CBCDCD: Rhoi cerddoriaeth i'r genhedlaeth nesaf

Ar yr un pryd, mae gitarau di-ri yn casglu llwch yn yr atig neu'n hongian yn angof ar y wal ar ôl i'r brwdfrydedd cychwynnol bylu—boed yn hobi’r arddegau neu'n arbrawf canol oed byrhoedlog.

Dyna pam rydyn ni'n lansio'r Amnest Gitâr.

Mae'r fenter hon yn eich gwahodd i roi eich gitâr ddiddefnydd, ddiangen neu ddigariad i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC). Bydd yr offerynnau hyn yn dod yn rhan o'n llyfrgell fenthyca newydd ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed, gan roi cyfle iddyn nhw ddarganfod a meithrin eu hangerdd am gerddoriaeth.

Sut allwch chi helpu

Os ydych chi wedi tyfu'n rhy fawr i’ch gitâr, wedi penderfynu rhoi'r gorau i chwarae neu am uwchraddio eich gitâr, dyma eich cyfle i'w rhoi i rywun sydd wirioneddol ei hangen. Dewch â'ch hen gitâr i CBCDC, lle caiff ei chasglu, ei chatalogio a'i pharatoi ar gyfer ei chartref newydd gyda cherddor ifanc.

Gall eich rhodd chi wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd cerddor addawol. Gadewch i ni droi offerynnau angof yn gyfleoedd newydd!

Er mwyn rhoi:

Llenwch y ffurflen hon a byddwn mewn cysylltiad i drefnu i chi ollwng eich gitâr:

Galwch heibio i CBCDC ar 27 Ionawr - 1af Chwefror rhwng 10am a 4pm i ollwng eich gitâr