

Teulu
Perfformiadau ysgolion: The Puppet Takeover!
Trosolwg
Tocynnau ar werth 1 Mai | Dyddiadau: Mer 2 & Iau 3 Gorff
Lleoliad
Hygyrchedd
Capsiynau Creadigol (pob perfformiad)
Oedran
Wedi’i greu ar gyfer plant 7 – 9 oed ond yn addas i bawb
Tocynnau:
Gwybodaeth
Eleni, mae prosiect pypedwaith haf blynyddol CBCDC yn ymuno a Techniquest, fel rhan o ‘Haf o Ddyfeisiadau’. Bydd pypedwyr dawnus CBCDC yn tywys ymwelwyr ar daith weledol a cherddorol ysblennydd drwy’r Ganolfan, gan archwilio rhai o’r datblygiadau arloesol mwyaf ym myd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).
Bydd y prosiect yn dod â gwyddoniaeth yn fyw i ymwelwyr â Techniquest tra’n arddangos sgiliau a chreadigrwydd myfyrwyr Cynllunio ar gyfer Perfformio CBCDC.
Ynghyd â pherfformiadau a gynhelir o amgylch y Ganolfan, peidiwch â cholli’r ddau berfformiad yma:
Team Life
Wedi bownsio oddi ar drampolîn a thorri’ch braich? Poen bol ofnadwy neu glun boenus? Beth bynnag fo’r broblem, beth bynnag fo’ch oedran, gall meddygon pyped Team Life helpu!
Am ddim ond bydd angen tocyn*
Team Space
Dewch i gwrdd â’r tîm o ofodwyr ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol i weld sut maent yn byw ac yn gweithio gyda’i gilydd i greu cartref yn y gofod!
Am ddim ond bydd angen tocyn*
[*Ar gael i’w harchebu, wrth brynu eich tocynnau mynediad]