Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Teulu

Techniquest: The Puppet Takeover!

  • Trosolwg

    Tocynnau ar werth 1 Mai | Dyddiadau: Sad 5 & Sul 6 Gorff

  • Lleoliad

    Techniquest

  • Prisiau

    Plentyn £8.50 - £12 | Oedolyn £9 - £14

  • Hygyrchedd

    Creative Captions (all performances) | Relaxed Performances (Sunday morning)

  • Oedran

    Wedi’i greu ar gyfer plant 7 – 9 oed ond yn addas i bawb

Gwybodaeth

Eleni, mae prosiect pypedwaith haf blynyddol CBCDC yn ymuno a Techniquest, fel rhan o ‘Haf o Ddyfeisiadau’. Bydd pypedwyr dawnus CBCDC yn tywys ymwelwyr ar daith weledol a cherddorol ysblennydd drwy’r Ganolfan, gan archwilio rhai o’r datblygiadau arloesol mwyaf ym myd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Bydd y prosiect yn dod â gwyddoniaeth yn fyw i ymwelwyr â Techniquest tra’n arddangos sgiliau a chreadigrwydd myfyrwyr Cynllunio ar gyfer Perfformio CBCDC.


Ynghyd â pherfformiadau a gynhelir o amgylch y Ganolfan, peidiwch â cholli’r ddau berfformiad yma:

Team Life

Wedi bownsio oddi ar drampolîn a thorri’ch braich? Poen bol ofnadwy neu glun boenus? Beth bynnag fo’r broblem, beth bynnag fo’ch oedran, gall meddygon pyped Team Life helpu!

Am ddim ond bydd angen tocyn*

Team Space

Dewch i gwrdd â’r tîm o ofodwyr ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol i weld sut maent yn byw ac yn gweithio gyda’i gilydd i greu cartref yn y gofod!

Am ddim ond bydd angen tocyn*

[*Ar gael i’w harchebu, wrth brynu eich tocynnau mynediad]

Digwyddiadau eraill cyn bo hir