Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Y Fonesig Sarah Connolly a Tomáš Hanus gyda Cherddorfa’r WNO

Tocynnau: £10 - £26

Bydd y Mezzo-Soprano addurnedig, y Fonesig Sarah Connolly, yn ymuno â Chyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus a Cherddorfa WNO, ar gyfer cyngerdd bythgofiadwy o adrodd straeon cerddoriaeth.

Bydd y cyngerdd yn cynnwys gweithiau teimladwy ac agos-atoch Schubert, Mahler a Sibelius. Wedi’i chyfansoddi ym 1822, mae Symffoni Rhif 8 Schubert ‘Anorffenedig’ yn ymestyn ffiniau’r arddull Glasurol, gan eistedd ar y cyrion rhwng y cyfnod Clasurol a Rhamantaidd. Ysbrydolwyd Lieder Eines Fahrenden gesellen (Caneuon Fforddolyn) Mahler gan ei dorcalon ei hun, gan ddisgrifio cariad a gollwyd a gyda newid byd yn dilyn hynny, dywedir bod y trydydd darn, hefyd gan Mahler, Adagietto o Symffoni Rhif 5, yn llythyr caru at Alma Schindler, ei ddarpar wraig.

Bydd y cyngerdd yn gorffen gyda Symffoni Rhif 7 gan Sibelius. Yng ngeiriau Sibelius ei hun mae’r darn yn un llawn ‘llawenydd bywyd a bywiogrwydd’ er iddo gael ei ysgrifennu mewn ymateb i oes o argyfwng – yn enwedig y Rhyfel Byd Cyntaf.

Schubert Symffoni Rhif 8 “Anorffenedig”

Mahler Lieder Eines Fahrenden gesellen

Mahler Adagietto o Symffoni Rhif 5

Sibelius Symffoni Rhif 7

Digwyddiadau eraill cyn bo hir