Folk/ Byd-eang
Rakesh Chaurasia a Shabaz Hussain
Trosolwg
Iau 20 Maw 2025 7.30pm
Lleoliad
Prisiau
£9-£18
Tocynnau: £9-£18
Lleoliad: Neuadd Dora Stoutzker
Gwybodaeth
Mae’r ffliwtydd Indiaidd ac enillydd dwy wobr Grammy, Rakesh Chaurasia, wedi creu arddull chwarae sy’n adnabyddadwy iawn a llawn emosiwn. Mae’r chwaraewr bansuri (ffliwt fambŵ) yn cofleidio’r modern ochr yn ochr â’i ymroddiad i gerddoriaeth glasurol Indiaidd ac mae ei statws cynyddol wedi arwain at berfformiadau ledled y byd, gan syfrdanu’r rheini sy’n newydd i’r offeryn a dilynwyr cerddoriaeth draddodiadol Indiaidd fel ei gilydd. Gyda dim ond ei anadl a darn twyllodrus o syml o fambŵ gwag, mae ei chwarae hynod ddeheuig a chynnil yn meddu ar harddwch prin a chydbwysedd o gryfder a thawelwch. Yn ymuno â Rakesh mae un o feistri tabla mwyaf medrus ei genhedlaeth, Shahbaz Hussain.