Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Band Catrawd yr Awyrlu: Ensemble Pres

  • Trosolwg

    Gwe 7 Maw 2025 1.15pm

  • Lleoliad

    Neuadd Dora Stoutzker

  • Prisiau

    £8 (gostyngiad o 10% ar bob cyngerdd pan fyddwch yn archebu 4 neu fwy)

Digwyddiad o'r gorffennol: Mae hwn yn ddigwyddiad o'r gorffennol.

Gwybodaeth

Mae Ensemble Band Pres Catrawd yr Awyrlu yn falch iawn o gael perfformio yn Neuadd Dora Stoutzker ac mae’n cynnwys nifer o gyn-fyfyrwyr uchel eu parch y Coleg mewn rhaglen sy’n cynnwys gweithiau gan Ralph Vaughan Williams a Charles Ives. Perfformiodd cerddorion o’r ensemble y Ffanfferau yn seremoni Coroni’r Brenin Charles III a’r Frenhines Camilla yn 2023, ac yn fwy diweddar maent wedi ymddangos yn Rownd Derfynol Cwpan FA 2024 yn Stadiwm Wembley a digwyddiad coffau D-Day 80 yn Normandi.

Air Specialist Class 1 Alan Thomas Carolean Fanfare

Ralph Vaughan Williams Henry V Overture

Ricardo Mollá Belen (Ewffoniwm: Air Specialist (Class 1) Josh Dickens)

Ives Variations on America (tref. Corporal Cristan Richards)

Prokofiev Montagues and Capulets from 'Romeo and Juliet' (tref. Paul Archibald)

Jim Rattigan Firewater

Digwyddiadau eraill cyn bo hir