Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Multi-Cultured Brass: A World Tour

Tocynnau: £8

Gwybodaeth

Wedi’i ysbrydoli gan ddoniau rhyngwladol “Septura Pres” a “Mnozil Brass”, a chyrhaeddiad pellgyrhaeddol byd-eang y ddau seithawd pres arloesol hyn, mae Ensemble Pres CBCDC yn eich gwahodd i bacio’ch bagiau ac ymuno â ni ar “Daith Byd” sy’n dathlu meistrolaeth ac ysbrydoliaeth y ddau grŵp wrth i ni berfformio repertoire newydd ar gyfer Seithawd Pres.

Wedi’i seilio’n gadarn ar draddodiadau llên gwerin, byddwn yn mynd â chi gyda ni ar daith ryngwladol wib, gan fwynhau repertoire ac arddulliau llawer o wledydd a diwylliannau.

Byddwn yn cychwyn yng Nghanol Ewrop, cyn croesi’r Iwerydd i’r Unol Daleithiau, yna’n teithio i’r de o’r cyhydedd trwy Puerto Rico. Byddwn yn parhau â’n taith trwy Frasil, De Affrica ac Awstralia cyn dychwelyd i’r DU.

Gweithiau gan Anton Bruckner, Bela Bartok, Leos Janacek, Florence Price, Arturo Pasarell, Ernesto Nazareth, Abdullah Ibrahim, Percy Grainger a Peter Warlock.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir