Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Matthew Barley: Light Stories

Digwyddiad o'r gorffennol: Mae hwn yn ddigwyddiad o'r gorffennol.

Gwybodaeth

Mae Light Stories yn cyflwyno hanesion o fywyd Matthew Barley, wedi’u hadrodd trwy gerddoriaeth a delweddaeth wedi’u taflunio, yn adrodd taith ei chwiliad am ystyr mewn creu cerddoriaeth a sut, ymhen amser, y daeth i leddfu clwyfau’r gorffennol. Mae’r perfformiad yn cynnwys darnau gan Joby Talbot, Anna Meredith, John Metcalfe a Bach gyda gweithiau newydd gan Barley, wedi’u cysylltu gan eiliadau o waith byrfyfyr ac electroneg.

Mae hwn yn ddathliad angerddol o bŵer achubol cerddoriaeth, gan ddod â stori Barley yn ei arddegau am drawma ac adferiad i sylw am y tro cyntaf, gan integreiddio’r synhwyrau deuol o weld a chlywed, cerddoriaeth a chof, golwg a sain.

Mae’r gwneuthurwyr ffilm arloesol Yeast Culture yn creu delweddau wedi’u taflunio fel gwrthbwynt byw i’r gerddoriaeth, gan gyfleu tywyllwch trawma a’i drawsnewidiad yn eglurder a dealltwriaeth.
Rhaglen

Barley Spell, ZenYen & Cathedrals and Caves

Rhaglen

Bach Prelude in D BWV 1012

Rhaglen

Anna Meredith moonmoons

Rhaglen

Sollima Hell 1

Rhaglen

Jan Bang Implanted Memories

Rhaglen

Anna Meredith Blackfriars

Rhaglen

Barley Unfolding

Rhaglen

Joby Talbot Motion Detector

Rhaglen

Barley Caught in the Crosshairs & Timefolding

Rhaglen

John Metcalfe Constant Filter

Rhaglen

Barley Vanishing Membranes & The Unwaiting Sky

Digwyddiadau eraill cyn bo hir