Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Jazz

Dennis Rollins a Jazz CBCDC: Calypso Cymru

Tocynnau: £7.50-£15

Gwybodaeth

Mae atgofion cerddorol Hynafiaid Windrush Cymru yn cael eu hail-ddychmygu trwy gelfyddyd gerddorol y cawr jazz Dennis Rollins ynghyd â Samuel Dubois ar y badell ddur, Cameron Pierre ar y gitâr a pherfformwyr jazz Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Gan roi bywyd newydd i glasuron calypso Lord Kitchner, Harry Belafonte, Mighty Sparrow, Monty Alexander a mwy, bydd y gig hefyd yn cynnwys trefniannau calypso/jazz newydd o Jump in The Line, Brown Skin Girl, Angelina a Sly Mongoose. Bydd yn siŵr o wneud i chi fod yn ysu i ddawnsio yn eich seddi!

"Mae’n mynd i fod yn bleser dychwelyd i CBCDC i ddatblygu ar ein cydweithrediad 2023, Calypso Cymru. Yma, ein cysylltiad yw’r gân." Dennis Rollins

Digwyddiadau eraill cyn bo hir