Jazz
Choro Choro Cymru yn cynnwys Maria Pia de Vito a Huw Warren
Trosolwg
Gwe 21 Chwe 2025 7.30pm
Lleoliad
Prisiau
£8-£16
Tocynnau: £8-£16
Gwybodaeth
Bydd Huw Warren, y pianydd jazz o Gymro, yn dod â synau Rio i Gaerdydd gyda’i deyrnged i Choro – calon fywiog cerddoriaeth Brasil. Gan ddod i’r amlwg yn Rio de Janeiro ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar deg, nodweddir Choro gan alawon llawn mynegiant a rhythmau arddull samba a bossa nova. Ar gyfer y perfformiad arbennig hwn bydd artistiaid gwadd, y canwr jazz o fri Maria Pia de Vito a’r offerynnwr taro o Frasil Adriano Adewale, yn ymuno â Huw.
Meddai Huw Warren 'Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyflwyno i’r cerddorion niferus o Frasil sydd wedi fy nghroesawu â breichiau agored ac wedi fy annog i fod yn greadigol gyda’r gerddoriaeth ryfeddol hon. Maent wedi cynnwys (yn Llundain y 1980au) Bosco De Oliveira, y diweddar Ricardo Dos Santos; a chyfarfyddiadau mwy diweddar â Jovino Santos Neto, Carlos Malta, Roberto Taufic, Chico Buarque, Matheus Prado, Seu Gaio a gwnaed y prosiect hwn yn bosibl diolch i gronfa ymchwil CBCDC.
Maria Pia de Vito llais
Huw Warren piano
Tori Freestone ffliwt
Yuri Goloubev bas
Adriano Adewale offerynnau taro
Gwnaed y prosiect hwn yn bosibl diolch i gronfa ymchwil CBCDC.