

Cerddoriaeth
Cantorion Ardwyn Caerdydd: Petite Messe Solennelle gan Rossini
Trosolwg
11 Tachwedd 7.30pm
Lleoliad
Prisiau
£5-£16
Digwyddiad o'r gorffennol: Mae hwn yn ddigwyddiad o'r gorffennol.
Gwybodaeth
Cantorion Ardwyn Caerdydd: Petite Messe Solennelle gan Rossini
Ymunwch â Chantorion Ardwyn Caerdydd i ddechrau eu dathliadau pen-blwydd yn 60 oed mewn perfformiad o Petite Messe Solennelle gan Rossini. Yn llawn lliw, pathos a dwyster, dyma oedd gwaith arwyddocaol olaf Rossini ac mae’n arddangos ei alluoedd rhyfeddol fel cyfansoddwr dramatig, twymgalon. Cantorion Ardwyn Caerdydd yw un o gorau cymysg gwychaf Cymru a bydd pedwar unawdydd proffesiynol adnabyddus yn ymuno â nhw ar gyfer noson o gerddoriaeth gorawl aruchel.
Soprano Zoe Milton-Brown
Mezzo soprano Angharad Lyddon
Tenor William Searle
Bas Owain Rowlands
Piano Christopher Williams
Harmonium Robert Court