Neidio i’r prif gynnwys

Cerddoriaeth

Art of Believing - Flamenco

Digwyddiad o'r gorffennol: Mae hwn yn ddigwyddiad o'r gorffennol.

Gwybodaeth

Cyfle i brofi gwir gerddoriaeth a dawns fywiog y fflamenco gan y rhyfeddol Daniel Martinez Flamenco Company.

Enillodd y cynhyrchiad Art of Believing wobr fawreddog Herald Angel yn ddiweddar ac mae’n llawn dop o gerddoriaeth fflamenco wirioneddol syfrdanol, gan ddod ag angerdd a thân Andalucia i Gaerdydd.

Y cyfansoddwr a’r gitarydd fflamenco Daniel Martinez yn cyflwyno ei gynhyrchiad cerddorol unigryw, lle bydd y gynulleidfa’n mwynhau amrywiaeth gyfoethog o arddulliau fflamenco; o emosiwn dwys Seguiriya i seiniau llawen Alegria.

Mae’r sioe yn cynnwys grŵp eithriadol o gerddorion; cantorion fflamenco, gitaryddion, chwaraewr cajon, feiolinydd a dawnsiwr yn ymuno â Daniel mewn perfformiad fflamenco pwerus sy’n llawn angerdd a dilysrwydd na ddylid ei golli.

Perfformiwyd Art of Believing am y tro cyntaf yn Theatr y Royal Lyceum yng Nghaeredin ym mis Hydref 2017 ac oherwydd llwyddiant aruthrol y sioe, mae’r Daniel Martinez Flamenco Company ar daith o amgylch y wlad ar hyn o bryd, gan lenwi theatrau, gwyliau gitâr a celfyddydol yn rhai o ddinasoedd mwyaf y DU.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir