Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MMus Cyfansoddi

  • Dyfarniad:

    MMus Cyfansoddi

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    21 Medi 2025

  • Hyd:

    13 mis dwys neu 2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    802F (dwys) neu 803F (llawn amser) – UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Cyfle i archwilio dulliau ac arddulliau cyfansoddi amrywiol, gyda nifer o gyfleoedd i weithio ar ein cynyrchiadau drama a chydweithio â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.

Trosolwg o’r cwrs

Yn y cwrs uwch hwn, byddwch yn gweithio gyda cherddorion proffesiynol sy’n cynnig hyfforddiant arbenigol mewn dulliau cyfansoddi creadigol a chefnogaeth unigol ar gyfer eich datblygiad personol fel cyfansoddwr.

Cefnogir yr hyfforddiant un i un hwn (a elwir yn brif astudiaeth) gan seminarau a dosbarthiadau ymarferol, lle byddwch yn cael adborth gan staff a’ch cyfoedion.

Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau tiwtorial a gweithdai cyfansoddi sy’n seiliedig ar sgiliau, yn ogystal â dosbarthiadau perfformio a recordio uwch, fel arfer gyda myfyrwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau.

Byddwch yn ymgolli mewn amgylchedd creadigol, conservatoire, sy’n gartref i ddulliau ac arddulliau cyfansoddi amrywiol, gan gynnwys cyfansoddi offerynnol, cyfansoddi electronig a cherddoriaeth ar gyfer theatr, dawns a ffilm.

Ceir cyfleoedd i arddangos eich gwaith drwy gydol y rhaglen astudio gyfan. Gallwch gydweithio â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, gweithio ar ein cynyrchiadau drama neu gael gwahoddiad i gynnig ysgrifennu ar gyfer ensembles y Coleg. Er mwyn i chi allu rhoi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ar waith, bydd eich cwrs yn gorffen gyda pherfformiad sylweddol o’ch gwaith yn ystod y tymor astudio olaf.

Yma, byddwch yn cael eich trin fel unigolyn, gan weithio i ddatblygu eich set sgiliau ac amrywio eich gwaith – ac, yn bwysicaf oll efallai, meithrin agwedd greadigol sy’n wynebu’r dyfodol a fydd yn eich arfogi â’r gallu i fynd i’r afael â datblygiadau a heriau wrth iddynt godi.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Byddwch yn archwilio amrywiaeth eang o wahanol ddulliau ac arddulliau, gan gynnwys cyfansoddi offerynnol, cyfansoddi electronig (gan gynnwys is-genres fel gwaith gosod, cerddoriaeth ar gyfer gemau ac electroneg ryngweithiol) a cherddoriaeth ar gyfer theatr, dawns a ffilm.
  • Mae hyfforddiant un i un yn rhan ganolog o’ch datblygiad fel cyfansoddwr. Gallwch hefyd ddefnyddio cyfoeth o ddosbarthiadau ategol, gan weithio mewn grwpiau bach gyda thiwtoriaid arbenigol. Mae’r meysydd ffocws yn cynnwys harmoni uwch, repertoire, estheteg a gwrthbwynt.
  • Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys cerddorion adnabyddus, hyfforddwyr nodedig, cyfansoddwyr blaenllaw ac artistiaid creadigol mewn amrywiaeth o genres. Maent yn eich mentora yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio ac addysg o’r radd flaenaf i chi.
  • Gallwch lunio eich modiwlau craidd i gyd-fynd â’ch sgiliau a’ch uchelgeisiau. Gyda rhai, byddwch yn cael rhywfaint o hyblygrwydd yn yr asesiadau, a fydd yn eich galluogi i brofi eich gwybodaeth mewn ffordd sy’n addas i chi.
  • Bydd eich datblygiad artistig hefyd yn cael ei siapio gan amrywiaeth eang o weithgareddau creadigol, gan gynnwys dosbarthiadau meistr, rihyrsals, gweithdai ymarferol, seminarau, prosiectau (unigol a chydweithredol), profiad gwaith, sesiynau stiwdio, ymarfer personol, hunanfyfyrio a gwerthuso.
  • Er y gallwch ddewis arbenigo, bydd pob myfyriwr yn datblygu sgiliau mewn technoleg i fod yn sail i’w gwaith creadigol – recordio, golygu ac elfennau sylfaenol technoleg cerddoriaeth. Y tu hwnt i’r hanfodion, gallwch hefyd archwilio pa mor bell y gallwch integreiddio technoleg i’ch proses greadigol.
  • Byddwch yn cynhyrchu gwaith cyhoeddus newydd, cyffrous, i safon ragorol, gyda chyfleoedd rheolaidd i gyflwyno cynigion i ysgrifennu ar gyfer ensembles neu brosiectau’r Coleg fel golygfeydd opera cyfoes gyda’n myfyrwyr cyfarwyddo opera.
  • I sbarduno eich ysbryd entrepreneuraidd – sy’n hanfodol ar gyfer gyrfa yn y diwydiant – byddwch yn cael cyfleoedd i greu a churadu eich prosiectau cyfansoddi eich hun.
  • Rydym hefyd yn trefnu digwyddiadau arddangos blynyddol er mwyn cyflwyno gwaith myfyrwyr sy’n graddio yn ein mannau perfformio cyhoeddus. Byddwch yn cyflwyno eich cysyniadau a’ch gofynion ac yna’n ymgymryd â rôl rheolwr prosiect i ddod â’ch perfformiad unigol at ei gilydd. Gall hyn gynnwys recriwtio ac ymarfer gyda chwaraewyr, cysylltu â gweithrediadau technegol ynghylch logisteg a darparu’r wybodaeth hyrwyddo.
  • Gallwch gyflwyno gwaith ar gyfer cyfleoedd allanol, gan gynnwys cystadlaethau, gwobrau a llwybrau datblygu. Mae ein cyfansoddwyr wedi bod yn arbennig o lwyddiannus yng nghystadleuaeth flynyddol Cyfansoddi Cymru BBC NOW ac wedi cymryd rhan yn y cyfleoedd a gynigir gan Tŷ Cerdd drwy CoDi, eu llwybr datblygu cyfansoddwyr.
  • Cewch gyfle i ddatblygu arbenigedd mewn maes llai cyfarwydd, fel ysgrifennu ar gyfer ffilm neu gyflwyno gwaith sy’n cynnwys electroneg os mai dim ond gwaith acwstig rydych chi wedi’i wneud o’r blaen. Mae’r cyfleoedd hyn yn eich galluogi i ehangu eich portffolio a’ch paratoi ar gyfer gweithgareddau proffesiynol hyblyg ar ôl i chi raddio.
  • Er y byddwch yn cael llawer o gefnogaeth un i un, byddwch hefyd yn cael o gyfleoedd i greu gwaith newydd cyffrous – a chreu partneriaethau creadigol parhaus – gyda myfyrwyr ar eich cwrs, yn ogystal â’r rheini o’n cyrsiau drama.
  • Mae gennym bartneriaethau agos â sefydliadau celfyddydol blaenllaw, sy’n rhoi cyfleoedd i chi adeiladu eich rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant – mantais a all fod yn ddefnyddiol iawn pan fyddwch chi’n dechrau arni.
  • Bob blwyddyn, bydd artistiaid rhyngwladol amlwg yn ymweld â’n campws ac yn cynnal dosbarthiadau meistr gyda’n myfyrwyr. Mae’r sesiynau hyn yn rhoi cipolwg hollbwysig i chi ar amrywiaeth o ddisgyblaethau, ac yn rhoi cyfle i chi rwydweithio, a gallant hefyd helpu i ddatblygu eich sgiliau.
  • Byddwch yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau mewn meysydd ychwanegol, gan gynnwys ymchwil, addysgu, cerddoriaeth gymunedol, arferion creadigol cydweithredol, cyfansoddi a chelfyddyd ddigidol.
  • Yn ein hamrywiaeth o seminarau, byddwch yn dysgu sut i ddatblygu a chynnal gyrfa bortffolio lwyddiannus. Mae’r pynciau’n amrywio o rwydweithio, ceisiadau am gyllid a chyfryngau cymdeithasol i faterion treth ac ariannol.

Gwybodaeth arall am y cwrs

‘Mae’r Coleg yn teimlo fel lle i ymchwilio i sut fath o beth fydd dyfodol cerddoriaeth, yn ei holl ffurfiau, gan ofyn cwestiynau pwysig ein hoes am gerddoriaeth a drama.'
Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf