Neidio i’r prif gynnwys

Grŵp Canu’n Uchel

Yn newydd ar gyfer hydref 2024, mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn partneru â Parkinson's UK i greu grŵp canu i helpu pobl i reoli eu symptomau clefyd Parkinson yn well.

Mae'r grŵp rhad ac am ddim hwn yn agored i bawb, gyda ffocws penodol i bobl â chlefyd Parkinson a'u teuluoedd/gofalwyr ddod draw i gael hwyl wrth ganu!

Cewch gymryd rhan mewn ymarferion lleisiol, sesiynau cynhesu a chanu caneuon cyfarwydd a newydd gyda'r bwriad o gryfhau'r llais i weithio’n erbyn symptomau fel y lleferydd yn meddalu a cholli ffyrfder y cyhyrau sy'n gyffredin yng nghlefyd Parkinson.

Mae wedi’i ddangos bod canu yn lleihau symptomau clefyd Parkinson fel cryndod, a phroblemau o ran cerdded ac osgo. Mae hyn am ei fod yn helpu i ymlacio’r cyhyrau a rhyddhau tensiwn yn y cefn a'r gwddf. Gall canu hefyd helpu i leihau gorbryder a hwyliau isel trwy ostwng hormonau straen a chynyddu cemegau 'teimlo'n dda' yr ymennydd (endorffinau).

Ar ôl y sesiwn, mae cyfle i sgwrsio a rhannu newyddion am ddigwyddiadau a chyfleoedd i bobl â chlefyd Parkinson yn Ne Cymru.

Cost

Am ddim (lluniaeth ar gael i’w brynu)

Amserau’r sesiynau

Mae’r grŵp yn cyfarfod yn wythnosol ar brynhawn dydd Iau yn yr Hen Lyfrgell, 18 Stryd y Drindod, Canolfan Dewi Sant, Caerdydd CF10 1BH. Mae’r côr yn para am 90 munud o 12:30, gyda lluniaeth o 2-2.30pm

Sesiwn un, 3 Hydref 2024


Archwilio’r adran