
CATS: Sioe gerdd go iawn
Dyddiad: I’w gadarnhau
Lleoliad: Neuadd Dora Stoutzker, CBCDC
Tocynnau: Ar werth 1 Ebrill
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cyflwyno cynhyrchiad newydd rhyfeddol o CATS, wedi’i ail-ddychmygu mewn modd na welwyd erioed o’r blaen.
Mewn fersiwn cwbl unigryw, rydym yn amnewid y cast traddodiadol o actorion gyda chwmni o gathod sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig. Mae’r cynhyrchiad newydd beiddgar hwn yn archwilio ffiniau perfformiad, symudiad, a natur anrhagweladwy cathaidd, gan gynnig profiad theatrig gwirioneddol drochol ac anrhagweladwy i gynulleidfaoedd.
Wedi’i chyfarwyddo gan yr arbenigwr symud clodwiw Kitty Purran, mae’r sioe wedi’i datblygu ar y cyd ag arbenigwyr ymddygiad anifeiliaid blaenllaw, hyfforddwyr llais, ac arbenigwyr cyfathrebu cathaidd. Mae’r cast yn cynnwys ystod amrywiol o dalent, yn amrywio o gyn-berfformwyr stryd i gathod pedigri sydd wedi’u hyfforddi mewn actio dull.
Mae’r cynhyrchiad hwn yn argoeli i fod yr un mor hudolus ag ydyw o anrhagweladwy.
Mae’r sioe hon yn cynnwys technoleg cyfieithu amser real sy’n cynorthwyo â dehongliad byw o bob miaw, chwip cynffon a naid.
Dydd Ffwl Ebrill Hapus!
Er efallai nad yw’r sioe hon yn wir, edrychwch ar rai o’n digwyddiadau sydd ar y gweill!