Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Gwasanaethau Myfyrwyr

Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn dîm croesawgar ac ymroddedig sy’n cynnig cymorth a chyngor, gan weithio mewn partneriaeth â’n myfyrwyr i’w grymuso i gyflawni eu potensial tra eu bod yn astudio yn CBCDC.

Mae wastad rhywun ar gael i siarad â nhw yn y swyddfa yn ystod oriau gwaith, felly galwch heibio i ddweud helô!

Amgylchedd tawel

Mae creadigrwydd ac iechyd meddwl yn mynd law yn llaw. Yn CBCDC credwn fod iechyd meddwl a lles myfyrwyr yn un o elfennau pwysicaf y Coleg.

Cymorth i fyfyrwyr

‘Mae astudiaethau wedi dangos y gall anawsterau iechyd meddwl fod yn uwch ymhlith y rheini sy’n gweithio’n greadigol am fywoliaeth. Weithiau mae ymdrechu am berffeithrwydd, fel y bydd perfformwyr yn ei wneud yn aml, yn golygu y gall iechyd meddwl gael mwy o gnoc pan na chaiff y disgwyliadau uchel hyn eu cyflawni.

Rydym yn ymfalchïo ein bod yn cynnig lefel eithriadol o uchel o sylw a chefnogaeth unigol, yn academaidd ac yn fugeiliol.’
Kate WilliamsRheolwr Cymorth Myfyrwyr

Sut gall Gwasanaethau Myfyrwyr eich helpu chi?

Gall gadael cartref i fynd i’r brifysgol a setlo i fywyd fel oedolyn annibynnol fod yn gyfnod heriol i bawb, ac mae angen mwy o help ar rai myfyrwyr nag eraill. Mae ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn cydlynu ystod o wasanaethau arbenigol i gefnogi iechyd corfforol, meddyliol ac ysbrydol ein holl fyfyrwyr yn CBCDC.

Maent yn gweithio gyda’r holl ddysgwyr i sicrhau, os bydd unrhyw adegau anodd yn digwydd, eu bod yn gallu cael mynediad at apwyntiadau gyda’r tîm i’w helpu drwy unrhyw anawsterau sydd ganddynt.

Mae tîm hynod arbenigol o ymarferwyr anabledd yn gweithio gyda’i gilydd ar draws meysydd niwroamrywiaeth, iechyd meddwl ac anabledd, gan rannu arfer gorau i sicrhau bod unrhyw rwystrau i astudio yn cael eu dileu.

Mae’r Coleg hefyd yn cynnig cymorth llesiant a mentora arbenigol a chymorth astudio arbenigol yn fewnol ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA) i’r rheini sydd wedi cael diagnosis o gyflyrau hirdymor. Mae ganddo hefyd ei wasanaeth cwnsela ei hun. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am DSA.

Os yw’n rhywbeth na all gwasanaethau myfyrwyr ei gefnogi’n uniongyrchol, mae gan y tîm gysylltiadau ag elusennau, sefydliadau a gwasanaeth y GIG a all gymryd yr awenau.