Acceptd
Rydym yn defnyddio Acceptd fel ein porth ar gyfer uwchlwytho recordiadau clyweliad, portffolios a dogfennau.
Rydym yn defnyddio Acceptd fel ein porth ar gyfer lanlwytho recordiadau/portfolios a trefnu clyweliadau/cyfweliadau. Gallwch fewngofnodi yma
neu dechrau trwy creu cyfrif Acceptd am ddim. Ni ddylai pob ffeil fideo a uwchlwythir fod yn fwy na 4GB. Mae fformat ffeiliau derbyniol yn cynnwys MP4, MPEG, MPG, MOV, AVI, WMV, M4V, FLV, WEBM, MKV, M2V. Fel arall, gallwch uwchlwytho dolen URL neu ddolen i YouTube. Mae canllawiau defnyddiol ar y dudalen gefnogaeth Acceptd.
Er mwyn eich cynorthwyo i baratoi eich recordiad/portffolio, dilynwch y Canllawiau Clyweliad ar ein gwefan neu’r adran Adnoddau Acceptd.
Cyrsiau Cerdd:
Cynhelir clyweliadau ar gyfer pob cwrs Cerddoriaeth trwy recordiad/portffolio neu wyneb yn wyneb, yn seiliedig ar eich dull clyweliad dewisol.
Os dewiswch gael clyweliad ar-lein, llwythwch eich recordiad/ portffolio i mewn i'r porth Acceptd erbyn Dydd Gwener 25 Hydref 2024.
Os dewiswch gael clyweliad yn bersonol, crewch eich Proffil Acceptd cyn Dydd Gwener 25 Hydref 2024.
Pob Cyrsiau Arall
Byddwn yn eich gwahodd i greu proffil Acceptd/ lanlwytho portffolio / cyflwyno clyweliad hunan-dâp rownd cyntaf ar ôl derbyn eich cais UCAS.
I gychwyn eich proffil Acceptd, dewiswch y cwrs a’r rhaglen berthnasol. Sicrhewch eich bod yn cynnwys eich enw a ID UCAS yn union yr un fformat â’ch cais UCAS a llenwch wybodaeth y cais.
Bydd yr Adran Deunydd Atodol yn gofyn i chi ddewis y ffeil/recordiadau perthnasol i'w uwchlwytho yn uniongyrchol neu i ddarparu URL o YouTube neu blatfform tebyg. Gallwch gyflwyno'ch perfformiadau mewn un recordiad neu recordiad ar wahân.
Sicrhewch eich bod wedi gwirio eich holl ffeiliau a uwchlwythwyd ac wedi rhagolwg eich cais cyn pwyso ar ‘Cyflwyno’.
Bydd neges yn cael ei harddangos i gadarnhau eich bod wedi uwchlwytho'ch gwybodaeth yn llwyddiannus.
Ni fyddwn yn gallu cydnabod derbyn recordiadau unigol trwy e-bost.
Sylwch y gallwn ddefnyddio'r gwasanaeth neges Acceptd i gysylltu â chi, felly cofiwch ychwanegu getacceptd.com fel anfonwr diogel yn eich gosodiadau e-bost.
Os oes angen unrhyw gymorth pellach, cysylltwch â ni.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich recordiad/portfolio.